Fe esgorodd Gwrthryfel y Pasg yn Nulyn yn 1916 ar gyfres o ddigwyddiadau a arweiniodd at annibyniaeth trwch yr ynys, ond ar y pryd nid oedd gwerthfawrogiad o’i arwyddocâd yng Nghymru. I fwyafrif helaeth y Cymry, roedd hwn yn weithred fradwrol gan ei fod yn digwydd ar adeg pan oedd Iwerddon (fel gweddill y Deyrnas Gyfunol) yng nghanol rhyfel gwaedlyd na welwyd ei fath o’r blaen. Mae’r erthygl hon yn olrhain sut edrychwyd ar ddigwyddiadau yn Iwerddon yng nghyd-destun y rhyfel yn erbyn yr Almaen, a sut oedd y cysyniad ei fod yn fuddiol i Iwerddon (fel Cymru) i aros yng nghôl yr Ymerodraeth Brydeinig wedi ei wreiddio mor ddwfn fel nad oedd modd ei herio
Is data on this page outdated, violates copyrights or anything else? Report the problem now and we will take corresponding actions after reviewing your request.